23.4.2009
Y Pris yn derbyn 4 enwebiad BAFTA Cymru 2009
Llongyfarchiadau i’r cyfarwyddwr Gareth Bryn, sydd wedi derbyn enwebiad BAFTA Cymru am ei waith ar gyfres gyntaf Y Pris. Llongyfarchiadau hefyd i Haydn Pearce sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am ei waith cynllunio ar y gyfres, i Peter Thornton am ei waith fel Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth ac i Nel Bat am ei gwaith coluro. Pob lwc iddyn nhw i gyd ar y noson fawr, 17 Mai.