Neidio at y cynnwys

S4C

Y Pris / Y Sioe

Y Pris – “Sopranos ger y lli”, mae’r gyfres ddrama yma yn dilyn bywydau cymhleth grwp o gangsters o Orllewin Cymru. Canolbwynt y ddrama yw Lyn Edwards, sy’n cael pwysau’r byw wedi gollwng ar ei ysgwyddau pan syrthia'i dad yn sal. Mae Lyn yn ceisio jyglo creisis teuluol, cariad newydd, y bygythiad yn erbyn ei ymerodraeth gyffuriau, a gwleidyddiaeth y Frawdoli’eth – y gyfundrefn maffia hynafol sy’n rhedeg pop dim yn yr ardal.

Yn ceisio ffeindio’i ffordd yn y dyfroedd dyfnion yma, gyda chymorth ei ffrindiau, mae’n rhaid iddo gadw’r ddesgl yn wastad gan weithredu hen ffyrdd ei dad ac ar yr un pryd hefyd sefydlu ei hun gyda’r Frawdoli’eth.

Cwmni Fiction Factory, sydd hefyd yn gyfrifol am gyfresi Caerdydd, yw cynhyrchwyr Y Pris. Ymhlith y cast mae enwau cyfarwydd fel Mark Lewis Jones, Nia Roberts, Rhodri Meilir, Matthew Gravelle, Mark Lewis Jones, Huw Ceredig, Jams Thomas, Aled Pugh a Catrin Arwel.

Ysgrifennwyd y gyfres gan Tim Price, cyn-newyddiadurwr 29 mlwydd oed o Aberdâr ac un o enillwyr Cystadleuaeth Sgriptio Ffilm a Drama S4C yn 2000.


Gwyliwch y rhaglen bob nos Iau am 22/00.